Amdanom Ni

O linell biced i Redline...
O linell biced i Redline...
Cydweithwyr a dreuliodd dair blynedd ar linell biced fel rhan o’r anghydfod diwydiannol hiraf erioed ym Mhrydain mewn ffatri cydrannau ceir wnaeth ymuno i sefydlu menter campau ceir newydd gwerth £1 miliwn.  

Roedd dynion o Gaernarfon, John Davis, Jimmy Clarke a Richard Lawson ymhlith dwsinau a ddiswyddwyd mewn modd dadleuol gan Friction Dynamics yn eu ffatri ar gyrion y dref, ac sy’n parhau i geisio’r hawl i fynnu iawndal am ddiswyddiad annheg. 

Erbyn hyn maent yn barod i agor y drysau yn eu canolfan gartio dan do bwrpasol newydd sbon, sydd wedi ei chanoli ar stad ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, o dan yr enw Redline. Ar ôl cyflogi chwe gweithiwr eisoes, dywed y tri sefydlydd eu bod nhw’n obeithiol y medran nhw lacio rhywfaint ar y diweithdra difrifol sydd yn yr ardal wrth iddynt ehangu yn y dyfodol.

Dywed cyfarwyddwr gweithredol Redline, John Davis i’r syniad cyfan am y ganolfan ddeillio wrth iddynt weithredu eu shifft ar y llinell biced hirfaith. “Roeddem ar y llinell biced, yn eistedd wrth ymyl y wal un noson o haf yn gwylio’r drafnidiaeth yn gyrru heibio,” meddai. “Daeth yn amlwg ein bod ni oll â diddordeb mewn campau cyflym - rwyf fi yn hoffi Fformiwla 1, tra mae Jimmy â diddordeb mewn motor-beics a Richard â diddordeb mewn cartio. Cychwynnodd y syniad yn gyfan o’r fan honno, ond fe gymerodd gryn amser i gyrraedd i’r fan hon.”

“Fe wnaethom lawer o waith ymchwil i bosibiliadau’r farchnad, a gwelsom fod llawer iawn o bobl o’r parthau hyn yn mynd mor bell â Sandycroft ar Lannau Dyfrdwy, Warrington a Lerpwl er mwyn cymryd rhan mewn cartio. Fe wnaethant ddangos y byddent yn barod i gefnogi rhywbeth tebyg yn nes at gartref.”

Fe deithiodd y tri mor bell â Cumbria a de orllewin Cymru, lle’r oedd cartio eisoes wedi profi i fod yn llwyddiant mewn ardaloedd lle’r oedd problemau tebyg i Gaernarfon o ran diweithdra ac o ran cael ei ystyried yn anghysbell. Fe wnaeth hynny ysbrydoli’r gred ynddynt fod eu syniadau busnes ar dir cadarn.

“Fe aethom i Maryport yn Cumbria, man tebyg i Gaernarfon mewn llawer ffordd, gyda diwydiant yn clafychu a swyddi’n brin, a hefyd i Hwlffordd yn Sir Benfro, man sydd, fel ein hardal ni, yn anghysbell, a synnwyd ni wrth weld pa mor llwyddiannus yr oedd lleoliadau cartio yn y mannau hynny.

“Roedd y dynion yn Maryport wedi defnyddio’u harian diswyddo i sefydlu’r busnes 25 mlynedd yn ôl gyda dim ond pum cert, tra roedd eu ffrindiau wedi gwario eu harian ar wyliau a cheir crand. Erbyn hyn mae ganddynt fusnes llwyddiannus gyda 77 cert, tra mae eu ffrindiau’n dal ar y dôl.”

Gyda Jimmy Clarke fel cyfarwyddwr mecanyddol a thechnegol, a Richard Lawson fel cyfarwyddwr marchnata, derbyniodd Redline gyngor a chymorth ariannol o nifer o ffynonellau yn cynnwys Twristiaeth Cymru, Cyllid Cymru, Menter Cymru, Cist Gymunedol Gwynedd a’r Gronfa Fuddsoddi Gymunedol. Dywed John Davies eu bod bellach yn frwd i gychwyn wrth i’r busnes gael ei lansio’n swyddogol ar ddydd Gwener, Mehefin 8fed 2007.

“Mae gennym 12 cert oedolion a chwech ar gyfer plant o wyth oed i fyny. Mae gan y certi oedolion beiriannau 200cc, a’r rhai i blant rai 160cc. Mae hon yn gamp ceir, ac mae’r cerbydau yn bopeth nad yw ceir bach y ffair. Maent yn wrthrychau cyflym o ran offer, er y medrwn reoli cyflymdra gyda chyfrifiadur drwy gyfrwng trawsatebwyr. Petai rhywun yn gyrru’n anghyfrifol, byddai gennym y gallu i gwtogi eu cyflymdra i 5 m.y.a. a’u cyrchu yn ôl i’r aropsfa pit i’w gosod yn y gell gosb.”

Diolch am ymweld â’n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi yn bersonol.

Gobeithiwn i chwi ganfod yr hyn yr oeddech yn chwilio amdano. Os na wnaethoch, croeso i chi gysylltu â ni.

 
www.redlineindoorkarting.co.uk

Dylunwyd gan Delwedd

info@redlineindoorkarting.co.uk Redline Indoor Karting www.redlineindoorkarting.co.uk