Poster Parti Plant |
|
cliciwch ar y llun i'w lawrlwytho |
Papur Wal Bwrdd Gwaith gan Delwedd
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau cael rhan fechan o Gartio Dan Do Redline yn addurno bwrdd gwaith eich cyfrifiadur.
CYFARWYDDIADAU GOSOD:
Nodyn i ddefnyddwyr AOL:
Yn ystod gosodiad cychwynnol AOL ar eich cyfrifiadur, gosodwyd y gosodiadau Graffig yn awtomatig i “Always Compress Graphics" sy’n llurgunio’r delweddau a welir ar-lein neu a achubir ar eich bwrdd gwaith. Ar gyfer cael yr ansawdd llun gorau posibl, byddwch cystal â sicrhau bod y gosodiad yn cael ei newid i "Never Compress Graphics" cyn arsefydlu’r un o’r delweddau papur wal hyn.
Yn ddibynnol ar eich fersiwn AOL, medrwch ganfod y gosodiad hwn drwy glicio ar:
Settings
Preferences
Internet Settings
Web Graphics
Cliciwch ar "Never Compress Graphics".
Windows 95, 98, NT, ME, XP, 2000
1) Cliciwch ar y cysylltiad sy’n gweddu ag arwynebedd eich sgrin bwrdd gwaith.
2) Disgwyliwch am i’r ddelwedd lwytho’n llwyr.
3) Gosodwch eich cwrswr llygoden ar y ddelwedd a lwythwyd a chliciwch ar y dde.
4) O’r fwydlen ddisgynnol, dewiswch "Set As Wallpaper" neu "Set as Background."
Macintosh OS 9
1) Cliciwch ar y cysylltiad sy’n gweddu ag arwynebedd eich sgrin bwrdd gwaith.
2) Disgwyliwch am i’r ddelwedd lwytho’n llwyr.
3) Gosodwch eich cwrswr llygoden ar y ddelwedd a lwythwyd a chliciwch a daliwch ef yno nes i fwydlen ymddangos.
4) Daliwch y llygoden i lawr a mynd at “hold down mouse” a "download image to disk" ac achubwch i’r bwrdd gwaith.
5) Agorwch y paneli rheoli a dewiswch “Appearance”.
6) Oddi mewn i “Appearance”, ewch at "desktop" a "place picture", agorwch y ddelwedd, ac yna "set desktop" .
Macintosh OS 10
1) Cliciwch ar y cysylltiad sy’n gweddu i’ch arwynebedd sgrin bwrdd gwaith.
2) Arhoswch nes i’r ddelwedd lwytho’n llawn.
3) Gosodwch eich cwrswr llygoden dros y ddelwedd a chliciwch a daliwch ef yno nes i’r fwydlen ymddangos.
4) Daliwch y llygoden i lawr a "download image to disk" ac achubwch i’r bwrdd gwaith.
5) Dewiswch fwydlen Apple > “System Preferences” a chliciwch “Desktop & Screen Saver.”
6) Cliciwch “Desktop”, ac yna chwiliwch am “file” neu dewiswch ffolder y ddelwedd(au) o’r rhestr ar y chwith. Os nad yw’r ffolder yn un a ddymunwch ei weld, dewiswch "Choose folder" er mwyn llywio i’r ffolder lle gwnaethoch osod eich lawrlwythi.
7) Agorwch y ffolder a ddewisoch drwy glicio arno, yna cliciwch y llun ar y dde y dymunwch ei ddefnyddio fel eich cefndir –ceir hefyd opsiynau ar gyfer gosod a chwarae arddangosfa sleidiau o’r holl luniau yn y ffolder.
Diolch am ymweld â’n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi yn bersonol.
Gobeithiwn i chwi ganfod yr hyn yr oeddech yn chwilio amdano. Os na wnaethoch, croeso i chi gysylltu â ni. |