Oriau Agor

Llun - Gwener: 12:00 - 19:00
Penwythnos -
Sad a Sul: 10:00 - 18:00

Cyfeirwch At Ein Prif Dudalen neu Facebook Am Eithriadau

Gwell bwcio er nid yw'n angenrheidiol.

Bwcio ar gyfer digwyddiadau arbennig yn bosib tu allan i oriau agor.

Ffoniwch, e-bostiwch neu galwch heibio gyda'ch gofynion.

PRISIAU

PARTION PLANT

karting

Cyfeiriadau

Lleolir Cartio Dan Do Redline ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru. Mae’r orsaf drenau leol ym Mangor (9 milltir/14 km) a’r meysydd awyr agosaf yw Lerpwl (85 milltir/96 km) a Manceinion (96 milltir/154 km) Nid ydym ond 29 milltir/46 km o Derfynfa Fferi Caergybi, sy’n cysylltu tir mawr Prydain â Gweriniaeth Iwerddon.  

Ceir dwy brif ffordd fawr  - yr A55 a’r A470. Mae’r ddwy ffordd yn cysylltu â’r A487, sef y brif ffordd drwy Gaernarfon.

Mae’r A55 yn dilyn arfordir Gogledd Cymru i Fangor cyn croesi Afon Menai ymlaen am Gaergybi. Cymerwch allanfa Cyffordd 9 – mae hon wedi ei harwyddo am Fangor, Caernarfon ac Ysbyty Gwynedd, sef y Gyffordd sydd agosaf at Bont Britannia ar ochr y tir mawr. O hynny ymlaen dilynwch yr arwyddion A487 am Gaernarfon.  

Mae’r A470 yn brif ffordd o Dde Cymru ac yn arwain o Gaerdydd at Landudno. Mae’r A487 yn ymuno â’r A470 ger Gellilydan (rhwng Trawsfynydd a Ffestiniog) ac yn parhau drwy Borthmadog am Gaernarfon a Bangor.  

Dilynwch yr A487 tuag at Gaernarfon. Unwaith y cyrhaeddwch y dref, dilynwch yr arwyddion am yr A4086 am Lanberis. Yna fe wnewch, yn fuan, ddod at arwyddion am Stad Ddiwydiannol Cibyn, sydd ar y chwith wrth i chi adael Caernarfon ar yr A4086.

Unwaith y cyrhaeddwch y stad, dilynwch y ffordd nes i chi gyrraedd Cyffordd T. Trowch i’r chwith. Mae’n lleoliad ni ar y dde ar frig y rhiw.

Fel arall, cliciwch ymai gael gweld ein map ar-lein.

Gwybodaeth Teithio
1.5 awr o Faes Awyr Rhyngwladol Manceinion
www.manchesterairport.co.uk

10 milltir o orsaf prif reilffordd Bangor
Ymholiadau ar gyfer gwasanaeth uniongyrchol Virgin West Coast i Reilffordd Llundain:
www.nationalrail.co.uk

20 munud o wasanaeth Maes Awyr Môn gan Highland Airways
www.highlandairways.co.uk

Diolch am ymweld â’n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi yn bersonol.

Gobeithiwn i chwi ganfod yr hyn yr oeddech yn chwilio amdano. Os na wnaethoch, croeso i chi gysylltu â ni.

 
www.redlineindoorkarting.co.uk

Gwefan gan Delwedd

info@redlineindoorkarting.co.uk Redline Indoor Karting www.redlineindoorkarting.co.uk